Marged Pendrell is a visual artist living and working bilingually in Snowdonia, North Wales. She has exhibited widely both nationally and internationally and her practice is often rooted in the land. She is particularly interested in the cultural histories that affect the connections and disconnections to ‘place’. She works primarily in 3D using mixed media, with most of the work informed by extensive research.
Mae Marged Pendrell yn artist gweledol sy'n byw ac yn gweithio'n ddwyieithog yn Eryri. Mae wedi arddangos yn eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae ei harferion yn aml wedi'u gwreiddio yn y tir. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn yr hanesion diwylliannol sy'n effeithio ar y cysylltiadau a'r datgysylltiadau â 'lle'. Mae'n gweithio'n bennaf mewn 3D gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei lywio gan ymchwil helaeth.
Marged’s work for the project was focused on the port of Caergybi/Holyhead. Over several months, she crafted, from a variety of materials, a timeline flotilla of small vessels. These highlight particular narratives (some positive, some troubling) in the history of the Welsh port’s connection to Ireland. Although underpinned by research, her response was partly fictional and explored a wider, imaginative context.
During an earlier residency at Áras Éanna Art Centre on Inis Oírr, Galway, Marged became interested in the journey of St Cybi from the Aran islands to Caer Gybi, and more generally in the connections between our lands on either side of the Irish Sea. In addition to the flotilla, Marged worked with community groups in Holyhead to create ‘Cwch Caergybi’, a textile and metal-work sculpture on a much larger scale. This work will be permanently installed in a specific site in the port town.
Roedd gwaith Marged ar gyfer y prosiect yn canolbwyntio ar borthladd Caergybi. Dros nifer o fisoedd, o amrywiaeth o ddeunyddiau, saernïodd fflotila o longau bach ar hyd llinell amser. Mae'r rhain yn amlygu naratifau penodol (rhai cadarnhaol, rhai yn peri gofid) yn hanes cysylltiad y porthladd Cymreig ag Iwerddon. Er ei bod wedi'i seilio ar ymchwil, roedd ei hymateb yn rhannol ffuglennol ac yn archwilio cyd-destun ehangach, dychmygus.
Yn ystod preswyliad cynharach yng Nghanolfan Gelf Áras Éanna ar Inis Oírr, Galway, ymddiddorai Marged yn nhaith Cybi Sant o ynysoedd Aran i Gaergybi, ac yn fwy cyffredinol yn y cysylltiadau rhwng ein tiroedd o boptu i Fôr Iwerddon. Yn ychwanegol at y fflotila, bu Marged yn gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghaergybi i greu 'Cwch Caergybi', sef cerflun tecstilau a gwaith metel ar raddfa lawer mwy. Bydd y gwaith hwn yn cael ei osod yn barhaol mewn safle penodol yn y dref borthladd.