Peter Stevenson is a writer, artist, performer and folklorist based in Aberystwyth, who has published many illustrated collections of tales. Jacob Whittaker is a sound artist and filmmaker based in Cardigan. Frequent collaborators, their work innovatively combines a range of voices, imagery and sounds.
Mae Peter Stevenson yn awdur, artist, perfformiwr a llên-gwerinwr sy’n byw yn Aberystwyth ac sydd wedi cyhoeddi nifer o gasgliadau o straeon darluniadol. Mae Jacob Whittaker yn artist sain a gwneuthurwr ffilmiau sy’n byw yn Aberteifi. Gan gydweithio'n aml, mae eu gwaith yn cyfuno amrywiaeth o leisiau, delweddaeth a seiniau.
Peter and Jake created a jointly-produced film, Uisce Dŵr Water, about Wales-Ireland connections. Working with communities in Fishguard and Goodwick at a time of shifting boundaries, their work has given a voice to those more marginalised individuals and forgotten everyday voices, seeking out lesser known and overlooked stories and creating a film that weaves together the visuals of their world with their voices, poetry, sounds, songs and music, old and new.
Creodd Peter a Jake ffilm a gynhyrchwyd ar y cyd, Uisce Dŵr Water, am gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Gan weithio gyda chymunedau yn Abergwaun ac Wdig ar adeg o newid ffiniau, mae eu gwaith wedi rhoi llais i'r unigolion mwyaf ymylol a lleisiau bob dydd sy’n angof, gan chwilio am straeon llai adnabyddus ac angof a chreu ffilm sy'n plethu delweddau eu byd gyda'u lleisiau, barddoniaeth, sain, caneuon a cherddoriaeth, hen a newydd.
The printed collection Uisce Dŵr Water: Folk Tales, True Tales and Tall Tales - Fibbing from Fishguard offers some quirky, entertaining and sometimes poignant revisitings of traditional and historical material from the Fishguard-Goodwick area.
Mae'r casgliad printiedig Uisce Dŵr Water: Folk Tales, True Tales a Tall Tales – Fibbing from Fishguard yn cynnig golwg newydd sy’n rhyfedd, yn ddifyr ac weithiau’n deimladwy ar ddeunydd traddodiadol a hanesyddol o ardal Abergwaun-Wdig.