Robert Jakes is a sculptor and community artist based in south Pembrokeshire. His work often involves creating visual features for specific places and communities both in the UK and abroad. He works with wood, and makes mixed-media mosaics, and has developed a special interest in community lantern events. Among his previous projects is the creation of the cast bronze plaques that form Pembroke Dock Heritage Trail, based on designs by children from six local schools.
Cerflunydd ac artist cymunedol yn ne Sir Benfro yw Robert Jakes. Mae ei waith yn aml yn golygu creu nodweddion gweledol ar gyfer lleoedd a chymunedau penodol yn y Deyrnas Unedig a thros y môr. Mae'n gweithio mewn pren, ac yn gwneud mosaigau mewn cyfryngau cymysg, ac mae wedi datblygu diddordeb arbennig mewn digwyddiadau llusernau cymunedol. Mae ei brosiectau blaenorol yn cynnwys creu'r placiau efydd cast sy'n ffurfio Llwybr Treftadaeth Doc Penfro, wedi’u seilio ar ddyluniadau gan blant o chwe ysgol leol.
Robert’s work for the project has been the creation of two rich and informative maritime maps. His first ceramic tile mural, Sea of Stories is now sited at the Ferry Terminal at Pembroke Dock, and combines images and text to explore the stretch of water between Pembroke Dock and Rosslare. This mural, and a newly-commissioned sister piece Sea of Stories II (Dublin-Holyhead), celebrates the cultural history of the sea between Ireland and Wales. Rob’s work captures stories of crossings by air and sea, and of monsters, lost lands, and the wonderful marine life found beneath the waves.
Gwaith Robert ar gyfer y prosiect oedd creu dau fap morwrol cyfoethog a llawn gwybodaeth. Mae ei furlun cyntaf mewn teils ceramig, Sea of Stories, bellach wedi'i leoli yn y Derfynfa Fferis yn Noc Penfro, ac mae'n cyfuno delweddau a thestun i archwilio'r môr rhwng Doc Penfro a Rosslare. Mae'r murlun hwn, a darn cyfatebol sydd newydd gael ei gomisiynu, Sea of Stories II (Dulyn-Caergybi), yn dathlu hanes diwylliannol y môr rhwng Iwerddon a Chymru. Mae gwaith Rob yn cyfleu straeon am groesiadau yn yr awyr ac ar y môr, a straeon angenfilod, tiroedd coll, a'r bywyd morol rhyfeddol a geir o dan y tonnau.